ymuno rhoi trafod

Cynhadledd Plaid Werdd Cymru 2020

Araith yr Arweinydd - Anthony Slaughter

Rydym yn byw mewn cyfnod heriol. Fe ddechreuodd 2020 gyda phethau i’n hatgoffa o ddwyster yr argyfwng parhaus yn yr hinsawdd. Fe ymledodd tanau gwyllt ar draws darnau helaeth o’r blaned, gan ddistrywio cymunedau a dinistrio amrywiaeth gwerthfawr o fywyd. Mewn ardaloedd eraill fe welwyd cynnydd mewn tywydd eithafol, gyda digwyddiadau a fu o’r blaen yn anghyffredin, fel y llifogydd dinistriol a darodd gymunedau ar draws y byd, gan gynnwys fan hyn yng Nghymru.

Nid rhywbeth astrus, yn perthyn i’r dyfodol mo’r argyfwng hinsawdd. Mae e gyda ni go iawn. Mae i’w weld fan hyn, nawr.

Ac yn debyg i bandemig presennol byd-eang y Coronafirws, y rhai sy’n dioddef y mwyaf yw’r wanaf a’r mwyaf bregus.

Mae’r argyfwng Covid parhaus wedi amlygu gwendidau dwys strwythurol a systemig ein cymdeithas, ac wedi taflu goleuni ar y lefelau annioddefol o anghyfartaledd sydd yn tyfu, ac sydd yn distrywio ein cymunedau. Bydd y dirwasgiad ariannol dwys sydd ar y ffordd - dirwasgiad a fydd yn waeth i ni yn y Deyrnas Unedig yn sgil yr anrhefn sy’n deillio o Brexit - yn effeithio’n drwm ar y cymunedau hyn, gan adael y rhai gwanaf a thlotaf hyd yn oed yn fwy bregus

Mae Covid 19 ac ymateb ein cymdeithas iddo wedi siglo nifer o syniadau sefydlog am sut mae pethau, neu sut ddylai pethau i fod. I ddechrau, gallwn gydnabod ar bwy mae ein cymdeithas a’r economi yn wir yn dibynnu, a bod gan y llywodraeth wedi’r cyfan y ‘goeden arian hud’ pan mae ei hangen. Mae’r diffygion dwfn strwythurol yn ein cymdeithas wedi cael eu dinoethi gan yr argyfwng, ac rydym yn gallu gweld pa mor wag yw honiadau’r llywodraeth am eu rheolaeth ofalus o’r economi. Meddyliwch sut fyddwn wedi bod yn fwy gwydn i wrthsefyll ergyd Covid petai ein gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol heb ddioddef toriadau llyfn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae wedi dod yn glir bod y penderfyniad i fynnu ar bolisïau caledi - austerity - yn weithred wleidyddol grotésg. Cofiwch, nid oedd y cyfnod o lymder yn anochel - yr oedd yn ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol bwriadol.

Mae’n rhaid i ni ddysgu o’r cyfan sydd wedi digwydd, gan sicrhau wrth i ni ddod allan o’r argyfwng hwn fod ein hadferiad yn deg ac yn wyrdd. Nid ydym yn gallu goddef ‘busnes fel arfer’, pan fyddai hynny dim ond yn rhoi plaster dros greithiau’r argyfwng hwn ac yn ein gadael yr un mor fregus - neu hyd yn oed yn fwy bregus - pan ddaw’r argyfwng nesaf. Ni ddylem geisio ymdopi a’r argyfwng hwn trwy wneud eraill, fel argyfwng yr hinsawdd, yn waeth, gan wneud penderfyniadau a arweiniai at amgylchedd truenus, anghynaladwy i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Felly sut fyddwn yn adeiladu dyfodol gwell, tecach a mwy gwyrdd? Rydym yn dechrau trwy gydnabod y gwirionedd bod yr argyfwng hwn wedi taro’n galetach y rhai a oedd yn barod mewn tlodi, gyda chyflogaeth anwadal neu a oedd yn talu’n wael, y rhai a oedd yn gorfod wynebu’r cyfnod clo mewn cartrefi heb gysur yr awyr agored, neu’r rheiny a fu’n peryglu eu bywydau trwy weithio fel gofalwyr, glanhawyr neu’r gweithwyr a ail-gyflenwai’r silffoedd. Trwy gydnabod bod yr argyfwng angheuol hwn wedi taro’n waeth yn y cymunedau pobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig.
These sacrifices need to be recognised with a meaningful commitment to build a fair and equal society

Mae’n rhaid cydnabod yr aberthau hyn gydag ymrwymiad dilys i adeiladu cymdeithas deg a chyfartal.

Golyga hyn fod yn rhaid ail-gynllunio ein heconomi i gwrdd ag anghenion pawb yng Nghymru am fwyd a llety. Nid yw’n ddigon i’n llywodraethau roi’r argraff eu bod am sefydlu cymdeithas well wedi Covid. Mae’n rhaid i ni fynd ymhellach gan sicrhau mai iechyd, gwydnwch a lles pawb fydd diben pob un polisi cyhoeddus.

Yng Nghymru, mae gennym rai o’r cartrefi mwyaf aneffeithlon yn Ewrop, gan orfodi i nifer o deuluoedd orfod dewis rhwng bwyta a gwresogi. Bellach mae’r teuluoedd hyn yn wynebu’r rhagolygon llwm o’r argyfwng Covid-19 yn parhau trwy gydol y gaeaf.

Ar frys mae’n rhaid i ni inswleiddio pob tŷ, a’u codi i’r safonau diweddaraf, a fydd nid yn unig yn cynorthwyo gyda thlodi ond hefyd yn creu miloedd o swyddi crefftus gwyrdd. Dylai’r cynllunio ar gyfer hyn ddechrau nawr, gyda chynllun wedi’i ariannu’n llawn i godi safonau tai i gyrraedd y meini prawf diweddaraf. Fan hyn yng Nghymru mae’n rhaid i ni fanteisio’n llawn ar ein hadnoddau lu adnewyddadwy o egni, a fydd eto yn creu miloedd o swyddi gwyrdd ar gyfer gweithlu sgiliedig. Fe arweiniodd Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol gwreiddiol. Fe allwn, ac fe ddylwn, fod ar y blaen gyda’r ail.

Rydym wedi dysgu dros y misoedd diwethaf pa mor fregus yw ein system o ddarparu bwyd - gyda neb i gynaeafu bwydydd a dyfwyd yn y DU, a’r archfarchnadoedd yn dibynnu ar gadwyni hirfaith i’w cyflenwi. Fe orfodwyd ffermwyr i daflu llaeth i lawr y draeniau neu i adael eu cnydau heb eu casglu, tra bod teuluoedd yn llwgu. Yn ystod yr argyfwng hwn mae ansicrwydd bwyd wedi pedwarplygu. Ac unwaith yn rhagor, y rhai sy’n dioddef yw’r mwyaf bregus.

Mae angen gefnogaeth y llywodraeth ar ffermydd bychain a busnesau lleol annibynnol ac mae’n rhaid blaenoriaethu’r sector hwn wedi i ni fynd trwy’r gwaethaf o’r argyfwng, gan ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer rhwydweithiau lleol ar gyfer bwyd, gyda ffocws ar ddulliau ecolegol o ffermio. Yn y modd yma, fe ddechreuwn symud tuag at system bwyd a ffermio sydd yn wydn, lleol a hunan-gynhaliol.

Mae Covid-19 wedi dinoethi pa mor fregus yw ein heconomi - yr anghyfartaledd, yr ansicrwydd a’r tlodi sy’n andwyo bywydau miliynau o’n cyd-ddinasyddion. Tra ein bod ni i gyd yn ceisio dod trwy’r un storom, nid ydym ni i gyd yn yr un cwch.

Mae’r Llywodraeth wedi mynnu aberthau enfawr gan bawb, rhai mwy nag eraill. Mae angen i hwn gael ei ad-dalu gyda system gyfiawn economaidd a chymdeithasol sydd o fudd i bawb.

Dyma pam bod ein llais radical Gwyrdd mor hanfodol. Mae ein gweledigaeth o gymdeithas gyfiawn a chynaliadwy yn wirioneddol drawsnewidiol, dyma’r newid mae’r blaned yn crio amdano. Ond nid yw syniadau mawrfrydig a bwriadau da yn ddigon. Mae angen i ni fod mewn safle i wireddu ein gweledigaeth. Mae angen llais Gwyrdd arnom yn yr ystafell pan mae’r penderfyniadau yn cael eu gwneud sy’n effeithio ar ddyfodol pawb. Mae angen arnom ni, mae angen ar Gymru, gynrychiolaeth Werdd etholedig ar bob lefel o lywodraeth.

A dyma pam bod etholiad y Senedd flwyddyn nesaf mor bwysig. Dyma ein siawns, ein cyfle i gael gwrandawiad i’n neges radical, i ymgysylltu gyda phobl Cymru, gyda’n cymunedau, i herio’r status quo diflas o “fusnes fel arfer.” Dyma fydd ein siawns, ein cyfle i gyflawni’r datblygiad hanesyddol hwnnw i sicrhau’r gynrychiolaeth Werdd yn y Senedd sydd mor angenrheidiol i Gymru.

Mae’r amseroedd heriol hyn yn mynnu gweithredu brys a radical. Nid yw geiriau cynnes na sloganau sylw-fachog yn ddigon. Bydd cynlluniau dewr ac uchelgeisiol y Fargen Newydd Werdd Cymru sy’n cael ei hyrwyddo gan Blaid Werdd Cymru’n cyflawni’r newidiadau angenrheidiol yng Nghymru, gan ddarparu bywydau diogel a sicr i bawb a sicrhau bod targedau lleihau carbon yn cael eu cyrraedd ar raddfa a chyflymder gofynnol i wynebu’r Argyfwng Hinsawdd.

Yn y misoedd nesaf mi fyddwn ni’n clywed pleidiau eraill hefyd yn siarad am Fargen Newydd Werdd, ac mae eu cydnabyddiaeth gynyddol o’r angen am weithredu pendant i wynebu’r argyfwng hinsawdd i'w groesawu, ond yn aml mae gweithredoedd yn siarad yn uwch na geiriau. Mae’r argyfwng hwn yn mynnu mwy na bwriadau da. Fel llawer o rai eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i darged o allyriadau carbon net sero erbyn 2050. Rydym ni yn y Blaid Werdd, yn gwybod bod hynny’n rhy hwyr. Mae’n rhaid i ni gyrraedd net sero erbyn 2030. Nid yw 2050 yn cydweddu gyda’r wyddoniaeth na chwaith tegwch

Dyma pam bod ein cynlluniau am Fargen Newydd Werdd yn mynd ymhellach a chyflymach er mwyn cydnabod graddfa a brys yr argyfwng hinsawdd.

Mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys sefydliad o Gronfa Drawsnewidiol Werdd ar gyfer Cymru a fydd yn codi cyllid, drwy ddyroddi bondiau i ariannu:

• Adeiladu miloedd o gartrefi carbon sero newydd pob blwyddyn
• Gosod toeau solar ar bob ysbyty
• Trosi miloedd o dai i’w gwneud yn gartrefi cynnes carbon sero bob blwyddyn
• Disodli holl fysiau disel yng Nghymru gyda bysiau trydan wedi’u cynhyrchu yng Nghymru

Mi fydd Bargen Newydd Werdd Plaid Werdd Cymru’n trawsnewid y gymdeithas Gymreig, darparu swyddi Gwyrdd mewn Economi Lesiant a chynnig bywydau iachus, gwell drwy sicrhau cartrefi cynnes a lleihad mewn llygredd aer, a chreu byd glanach a gwyrddach ar gyfer y cenedlaethau i ddod, er lles pobl a phlaned.

Mae etholiad y flwyddyn nesaf hefyd yn foment hanfodol i ddemocratiaeth yng Nghymru. Er bod yr etholiad i Senedd Newydd Cymru gyda phwerau cynyddol yn foment hanesyddol i Gymru, mae’r holl ad-drefniant datganoli mewn perygl, wrth iddo gael ei fygwth gan lywodraeth DU sy’n bwriadu tynnu nôl pwerau o’r gwledydd datganoledig. Bydd yr ymyrraeth ôl-Frexit a ddaw o Fesur y Farchnad Fewnol yn tanseilio unrhyw gais gan Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw safonau amgylcheddol a bwyd uchel a ffrwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fel Plaid sy’n credu mewn datganoli grym i’r lefel isaf posib, basai’r Gwyrddion yn y Senedd yn gwneud popeth o fewn ein grym i wrthsefyll yr ymosodiad hwn ar ddatganoli. Mae Plaid Werdd Cymru’n credu bod annibyniaeth i Gymru yn ddyhead hirdymor. Baswn i’n dadlau bod gweithredoedd presennol llywodraeth y DU yn gwneud y dyhead hwnnw yn debyg o ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd, argyfwng iechyd ac argyfwng democrataidd, bydd Gwyrddion yn y Senedd yn gwneud y gwahaniaeth sydd ei hangen.
Bydd ein gweledigaeth ar gyfer Cymru’n yn gallu bod yn astudiaeth achos am yr hyn all cymdeithas gynaliadwy fod, gyda buddsoddiad gwirioneddol yn ein cymunedau a fydd yn rhoi blaenoriaeth i bobl a phlaned.

Fe allwn ac fe fyddwn yn sicrhau y bydd Gwyrddion yn cael eu hethol flwyddyn nesaf a chan adeiladu ar y llwyddiant hynny, fe welwn yr etholiad o gynghorwyr Gwyrdd ar draws Cymru yn 2022 gan ymuno gydag Emily Durrant, ein cynghorydd Gwyrdd ym Mhowys sy’n gwneud gwaith ardderchog i'w chymuned a dangos gwerth llais Gwyrdd yn yr ystafell.

Yn y misoedd diweddar rydym wedi gweld llu o lwyddiannau etholiadol Gwyrdd ar draws y byd. O Ewrop, ble mae’r Gwyrddion bellach yn rhan o’r llywodraeth mewn wyth gwlad i’r canlyniadau gwych yn Seland Newydd yn yr wythnos ddiwethaf. Mae pobl yn ethol y Gwyrddion o achos eu bod nhw’n gwybod bod Gwyrddion, wedi’r etholiad, yn cyflawni’r gwaith. Nid yw Cymru’n haeddu llai.

Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda chi gyd yn y misoedd a ddaw wrth i ni ymladd ein hymgyrch etholiadol fwyaf effeithiol hyd yn hyn

Mi allwn ni, ac mae’n rhaid i ni a byddwn ni yn cael y Gwyrddion etholedig hynny sy’n angenrheidiol i Gymru.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

cyCymraeg