Mae Plaid Werdd Cymru yn arwain y frwydr dros weithredu yn yr hinsawdd a chymdeithas deg i bawb yng Nghymru.
Bydd ein Bargen Newydd Werdd ar gyfer dyfodol cyfiawn a chynaliadwy nid yn unig yn amddiffyn ein hamgylchedd ond hefyd yn darparu swyddi ac yn cryfhau gwasanaethau cyhoeddus, gan gefnogi'r rhai a adawyd ar ôl gan Lafur a'r Ceidwadwyr wrth i hen ddiwydiannau Cymru ddirywio. Mae ansawdd bywyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol wrth wraidd ein credoau.
Mae gennym bleidiau lleol ym mhob rhan o Gymru ac mae ein haelodau'n weithgar mewn cymunedau lleol i gefnogi'r rhai sy'n agored i niwed, diogelu'r amgylchedd ac ymgyrchu dros newid.
Gydag etholiadau ar gyfer Senedd Cymru ym mis Mai 2021, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r Blaid Werdd a bod yn rhan o'r newid sydd i ddod. Ymunwch â ni nawr